Cymhwyso rhyddhad grŵpLL+C
40(1)Mae Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) yn gymwys i—
(a)trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, a
(b)trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18,
gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2)Mae paragraff 8 yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (2)(a), “pan fo partner a oedd yn bartner ar y dyddiad yr oedd y trafodiad a ryddheir yn cael effaith (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”;
(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (2)(b)—
“(b)ar yr adeg y mae’r partner perthnasol yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo buddiant trethadwy yn cael ei ddal gan aelodau’r bartneriaeth neu ar eu rhan a bod y buddiant trethadwy hwnnw—
(i)wedi ei gaffael gan y bartneriaeth neu ar ei rhan o dan y trafodiad a ryddheir, neu
(ii)yn deillio o fuddiant trethadwy a gaffaelwyd felly,
ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.”;
(c)yn is-baragraff (4), “a ddelir gan neu ar ran y bartneriaeth ac i’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi ar yr adeg berthnasol wrth rannu elw incwm y bartneriaeth” yn cael ei roi yn lle’r geiriau o “y mae’r cwmni” hyd y diwedd;
(d)yn is-baragraff (5), y diffiniad o “cwmni cyswllt perthnasol” wedi ei hepgor.
(3)Mae paragraffau 9 i 14 yn cael effaith fel pe bai “y partner perthnasol” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”(bob tro y mae’n digwydd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 40 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3