Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
44(1)Nid yw trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 (trosglwyddo buddiant partneriaeth) yn drafodiad hysbysadwy onid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero.
(2)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero os yw’n cynnwys—
(a)unrhyw swm y mae treth ar raddfa uwchlaw 0% i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, neu
(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi felly mewn cysylltiad ag ef oni bai am ryddhad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3