ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 10DEHONGLI

I1I245Eiddo’r bartneriaeth a chyfranddaliad yn y bartneriaeth

1

Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at eiddo’r bartneriaeth yn gyfeiriad at fuddiant neu hawl a ddelir gan bartneriaeth neu ar ei rhan, neu gan aelodau partneriaeth, at ddibenion y busnes partneriaeth.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at gyfranddaliad person yn y bartneriaeth ar unrhyw adeg yn gyfeiriad at y cyfranddaliad y mae gan y person hawl iddo ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.