ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 10DEHONGLI

I1I249Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth

At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo—

a

buddiant trethadwy a oedd yn eiddo’r bartneriaeth yn peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth, neu

b

buddiant trethadwy yn cael ei roi neu ei greu o eiddo’r bartneriaeth ac nad eiddo’r bartneriaeth yw’r buddiant.