ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 10LL+CDEHONGLI

Personau cysylltiedigLL+C

51(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn cael effaith at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1), mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (7) (partneriaid sy’n gysylltiedig â’i gilydd).

(3)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1) at ddibenion paragraffau 15, 16, 23 a 24, mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig â setliad).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3