45(1)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at eiddo’r bartneriaeth yn gyfeiriad at fuddiant neu hawl a ddelir gan bartneriaeth neu ar ei rhan, neu gan aelodau partneriaeth, at ddibenion y busnes partneriaeth.
(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at gyfranddaliad person yn y bartneriaeth ar unrhyw adeg yn gyfeiriad at y cyfranddaliad y mae gan y person hawl iddo ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
46Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at drosglwyddo buddiant trethadwy yn cynnwys—
(a)creu buddiant trethadwy,
(b)amrywio buddiant trethadwy, ac
(c)ildio neu ollwng buddiant trethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 7 para. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 7 para. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
47At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo buddiant trethadwy yn dod yn eiddo’r bartneriaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 7 para. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 7 para. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
48At ddibenion yr Atodlen hon, pan fo person yn caffael neu’n cynyddu cyfranddaliad yn y bartneriaeth trosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth (i’r partner hwnnw ac o’r partneriaid eraill).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 7 para. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I8Atod. 7 para. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
49At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo—
(a)buddiant trethadwy a oedd yn eiddo’r bartneriaeth yn peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth, neu
(b)buddiant trethadwy yn cael ei roi neu ei greu o eiddo’r bartneriaeth ac nad eiddo’r bartneriaeth yw’r buddiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 7 para. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I10Atod. 7 para. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
50(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â les at ddibenion yr Atodlen hon—
(a)os yw, neu os oedd, rhoi’r les yn drafodiad y mae, neu yr oedd, adran 13 yn gymwys iddo (neu’n drafodiad y byddai paragraff 13 yn gymwys iddo pe bai’r paragraff hwnnw wedi bod mewn grym ar adeg rhoi’r les), neu
(b)os yw rhoi’r les yn drafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo.
(2)Wrth bennu gwerth marchnadol y les, mae rhwymedigaeth ar ran y tenant o dan y les i’w hystyried os yw (ond dim ond os yw)—
(a)yn rhwymedigaeth megis y rhai a grybwyllir ym mharagraff 16(1) o Atodlen 6 (rhwymedigaethau tenant nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy), neu
(b)yn rhwymedigaeth i roi taliad i berson.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 7 para. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I12Atod. 7 para. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
51(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn cael effaith at ddibenion yr Atodlen hon.
(2)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1), mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (7) (partneriaid sy’n gysylltiedig â’i gilydd).
(3)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1) at ddibenion paragraffau 15, 16, 23 a 24, mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig â setliad).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 7 para. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I14Atod. 7 para. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
52Yn yr Atodlen hon mae i “trefniadau” yr ystyr a roddir gan adran 31(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 7 para. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I16Atod. 7 para. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3