xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 3LL+CTRAFODIADAU CYFFREDIN GAN BARTNERIAETH

RhagarweiniadLL+C

8Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gymwys i drafodiadau tir yr ymrwymir iddynt fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth, ac eithrio trafodiadau o fewn Rhannau 4 i 8 o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfrifoldeb partneriaidLL+C

9(1)Mewn perthynas ag unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr yn y trafodiad, neu mewn perthynas ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu rhaid ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd.

(2)Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw—

(a)y personau sy’n bartneriaid ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn aelod o’r bartneriaeth ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(3)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 10 (partneriaid cynrychiadol).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Partneriaid cynrychiadolLL+C

10(1)Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn cysylltiad â’r trafodiad gan y partneriaid cyfrifol, neu mewn perthynas â hwy, gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw bartner neu bartneriaid cynrychiadol, neu mewn perthynas â hwy.

(2)Mae hyn yn cynnwys gwneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).

(3)Ystyr “partner cynrychiadol” yw partner a enwebir gan fwyafrif o’r partneriaid i weithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth at ddibenion y Ddeddf hon.

(4)Nid yw unrhyw enwebiad o’r fath, neu ddirymiad enwebiad o’r fath, ond yn cael effaith ar ôl i ACC gael ei hysbysu am yr enwebiad neu’r dirymiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigolLL+C

11(1)Pan fo rhwymedigaeth ar y partneriaid cyfrifol i dalu—

(a)treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

(b)swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

(c)cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

mae’r rhwymedigaeth yn rhwymedigaeth i’r partneriaid hynny ar y cyd ac yn unigol.

(2)Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) gan berson na ddaeth yn bartner cyfrifol hyd ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad y mae treth yn daladwy mewn perthynas ag ef yn cael effaith.

(3)Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn bartner hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

(4)Yr adeg berthnasol—

(a)mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu log taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3