ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 4TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH
I1I912Rhagarweiniad
Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
a
mae paragraffau 13 i 17 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, a
b
mae paragraffau 18 a 19 yn darparu ar gyfer trin digwyddiadau penodol yn dilyn trafodiadau o’r fath fel trafodiadau tir.
I2I1013Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth,
b
person yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am fuddiant yn y bartneriaeth, neu
c
person sy’n gysylltiedig ag—
i
partner, neu
ii
person sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef,
yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio’r bartneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.
3
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i—
Ffigwr 9
pan fo—
GM yn werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac
SCI yn swm y cyfrannau is.
4
Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.
5
Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.
6
Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, ond y partneriaid cyfrifol yw—
a
y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a
b
unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad ag ef.
7
Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.
I3I1114Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: swm y cyfrannau is
Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo fel a ganlyn—
Cam 1
Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 15).
Cam 2
Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 16).
Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.
Cam 3
Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan y perchennog hawl iddi yn union cyn y trafodiad.
Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.
Cam 4
Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—
- a
y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 17);
- b
cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.
- a
Cam 5
Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.
Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.
I4I1215Perchennog perthnasol
1
At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—
a
os oedd gan y person, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a
b
os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.
2
At ddibenion paragraff 14 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.
I5I1316Partner cyfatebol
1
At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 2), mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union ar ôl y trafodiad—
a
yw’r person yn bartner, a
b
y person yw’r perchennog perthnasol neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.
2
At ddiben is-baragraff (1)(b), mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—
a
os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a
b
os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).
I6I1417Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol
At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—
a
os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;
b
os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.
I7I15C118Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi trethi
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);
b
pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);
c
pan drosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (“trosglwyddiad y bartneriaeth”);
d
pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth—
i
os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), gan y person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir;
ii
os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), gan y partner o dan sylw;
e
pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth yn unol â threfniadau sy’n drefniadau osgoi trethi, neu’n rhan ohonynt a oedd yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad tir;
f
pan nad yw trosglwyddiad y bartneriaeth (oni bai am y paragraff hwn) yn drafodiad trethadwy.
2
At ddibenion y Ddeddf hon, o ran trosglwyddiad y bartneriaeth—
a
cymerir ei fod yn drafodiad tir, a
b
mae’n drafodiad trethadwy.
3
Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr yn y trafodiad.
4
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir.
5
Y gyfran honno—
a
os nad yw’r person sy’n gwneud trosglwyddiad y bartneriaeth yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth yn union cyn y trosglwyddiad hwnnw;
b
os yw’r person yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad hwnnw ac ar ei ôl.
6
Cymerir bod trosglwyddiad y bartneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiol.
7
Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â throsglwyddiad y bartneriaeth, ond y partneriaid cyfrifol yw—
a
y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a
b
unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
8
Yn y paragraff hwn, mae i “trefniadau osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.
I8I16C219Tynnu arian etc. o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwy
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);
b
pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);
c
pan geir digwyddiad cymwys o fewn is-baragraff (2) yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith;
d
pan fo’r digwyddiad cymwys yn drefniant osgoi trethi, neu’n rhan ohono;
e
pan na fo dewis wedi ei wneud, ar adeg y digwyddiad cymwys, mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad tir o dan baragraff 36.
2
Ystyr digwyddiad cymwys yw—
a
tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm, drwy fod y person perthnasol—
i
yn tynnu cyfalaf o gyfrif cyfalaf y person perthnasol,
ii
yn lleihau buddiant y person perthnasol yn y bartneriaeth, neu
iii
yn peidio â bod yn bartner, neu
b
mewn achos pan fo’r person perthnasol wedi rhoi benthyciad i’r bartneriaeth—
i
y bartneriaeth yn ad-dalu’r benthyciad (i unrhyw raddau), neu
ii
y person perthnasol yn tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm.
3
At ddibenion is-baragraff (2), y person perthnasol—
a
pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), yw’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir, a
b
pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), yw’r partner o dan sylw neu berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw.
4
At ddibenion y Ddeddf hon, o ran y digwyddiad cymwys—
a
cymerir ei fod yn drafodiad tir, a
b
mae’n drafodiad trethadwy.
5
Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr o dan y trafodiad.
6
Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad.
7
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad—
a
mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(a), yn hafal i werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth;
b
mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(i), yn hafal i’r swm a ad-delir;
c
mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(ii), yn hafal i hynny o werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth nad yw’n fwy na swm y benthyciad.
8
Ond nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (7) i fod yn fwy na gwerth marchnadol, ar y dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith, y buddiant trethadwy a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir, wedi ei ostwng yn ôl unrhyw swm yr oedd treth i’w chodi arno cyn hynny.
9
Pan fo—
a
digwyddiad cymwys yn arwain at godi treth o dan y paragraff hwn, a
b
yr un digwyddiad yn arwain at godi treth o dan baragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo),
caiff swm y dreth a godir o dan y paragraff hwn ei ostwng (ond nid islaw sero) yn ôl swm y dreth a godir o dan y paragraff hwnnw.
10
Yn y paragraff hwn, mae i “trefniant osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.