xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 4LL+CTRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH

RhagarweiniadLL+C

12Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)mae paragraffau 13 i 17 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, a

(b)mae paragraffau 18 a 19 yn darparu ar gyfer trin digwyddiadau penodol yn dilyn trafodiadau o’r fath fel trafodiadau tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinolLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth,

(b)person yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am fuddiant yn y bartneriaeth, neu

(c)person sy’n gysylltiedig ag—

(i)partner, neu

(ii)person sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef,

yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio’r bartneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.

(3)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i—

Formula - MV multiplied by (100 minus SLP)%

Ffigwr 9

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac

  • SCI yn swm y cyfrannau is.

(4)Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.

(5)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(6)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, ond y partneriaid cyfrifol yw—

(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad ag ef.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 7 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: swm y cyfrannau isLL+C

14Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Perchennog perthnasolLL+C

15(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oedd gan y person, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 14 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Partner cyfatebolLL+C

16(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 2), mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union ar ôl y trafodiad—

(a)yw’r person yn bartner, a

(b)y person yw’r perchennog perthnasol neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddiben is-baragraff (1)(b), mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 7 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 7 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebolLL+C

17At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 7 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 7 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi trethiLL+C

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);

(c)pan drosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (“trosglwyddiad y bartneriaeth”);

(d)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth—

(i)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), gan y person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir;

(ii)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), gan y partner o dan sylw;

(e)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth yn unol â threfniadau sy’n drefniadau osgoi trethi, neu’n rhan ohonynt a oedd yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad tir;

(f)pan nad yw trosglwyddiad y bartneriaeth (oni bai am y paragraff hwn) yn drafodiad trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran trosglwyddiad y bartneriaeth—

(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a

(b)mae’n drafodiad trethadwy.

(3)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr yn y trafodiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad yw’r person sy’n gwneud trosglwyddiad y bartneriaeth yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth yn union cyn y trosglwyddiad hwnnw;

(b)os yw’r person yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad hwnnw ac ar ei ôl.

(6)Cymerir bod trosglwyddiad y bartneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiol.

(7)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â throsglwyddiad y bartneriaeth, ond y partneriaid cyfrifol yw—

(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

(8)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniadau osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 7 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 7 para. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tynnu arian etc. o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwyLL+C

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);

(c)pan geir digwyddiad cymwys o fewn is-baragraff (2) yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith;

(d)pan fo’r digwyddiad cymwys yn drefniant osgoi trethi, neu’n rhan ohono;

(e)pan na fo dewis wedi ei wneud, ar adeg y digwyddiad cymwys, mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad tir o dan baragraff 36.

(2)Ystyr digwyddiad cymwys yw—

(a)tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm, drwy fod y person perthnasol—

(i)yn tynnu cyfalaf o gyfrif cyfalaf y person perthnasol,

(ii)yn lleihau buddiant y person perthnasol yn y bartneriaeth, neu

(iii)yn peidio â bod yn bartner, neu

(b)mewn achos pan fo’r person perthnasol wedi rhoi benthyciad i’r bartneriaeth—

(i)y bartneriaeth yn ad-dalu’r benthyciad (i unrhyw raddau), neu

(ii)y person perthnasol yn tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), y person perthnasol—

(a)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), yw’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), yw’r partner o dan sylw neu berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran y digwyddiad cymwys—

(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a

(b)mae’n drafodiad trethadwy.

(5)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr o dan y trafodiad.

(6)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad.

(7)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad—

(a)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(a), yn hafal i werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth;

(b)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(i), yn hafal i’r swm a ad-delir;

(c)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(ii), yn hafal i hynny o werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth nad yw’n fwy na swm y benthyciad.

(8)Ond nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (7) i fod yn fwy na gwerth marchnadol, ar y dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith, y buddiant trethadwy a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir, wedi ei ostwng yn ôl unrhyw swm yr oedd treth i’w chodi arno cyn hynny.

(9)Pan fo—

(a)digwyddiad cymwys yn arwain at godi treth o dan y paragraff hwn, a

(b)yr un digwyddiad yn arwain at godi treth o dan baragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo),

caiff swm y dreth a godir o dan y paragraff hwn ei ostwng (ond nid islaw sero) yn ôl swm y dreth a godir o dan y paragraff hwnnw.

(10)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniant osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 7 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 7 para. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3