ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 5TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU O BARTNERIAETH
I1I920Rhagarweiniad
Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth.
I2I1021Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan drosglwyddir buddiant trethadwy—
a
o bartneriaeth i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu
b
o bartneriaeth i berson sy’n gysylltiedig â pherson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid.
2
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (yn ddarostyngedig i baragraff 30) yn hafal i—
Ffigwr 10
pan fo—
GM yn werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir, ac
SCI yn swm y cyfrannau is.
3
Mae paragraff 22 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.
4
Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.
5
At ddibenion y paragraff hwn, mae eiddo a oedd yn eiddo’r bartneriaeth cyn i’r bartneriaeth gael ei diddymu neu cyn iddi beidio â bodoli fel arall i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn eiddo’r bartneriaeth hyd nes y caiff ei ddosbarthu.
6
Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.
I3I1122Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: swm y cyfrannau is
Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo fel a ganlyn—
Cam 1
Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 23).
Cam 2
Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 24).
Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.
Cam 3
Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy y mae gan y perchennog hwnnw hawl iddo yn union ar ôl y trafodiad.
Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.
Cam 4
Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—
- a
y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 25);
- b
y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner (gweler paragraffau 26 a 27).
- a
Cam 5
Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.
Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.
I4I1223Perchennog perthnasol
1
At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—
a
os oes gan y person, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a
b
os oedd y person, yn union cyn y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.
2
At ddibenion paragraff 22 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.
I5I1324Partner cyfatebol
1
At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 2) mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union cyn y trafodiad—
a
oedd y person yn bartner, a
b
y person oedd y perchennog perthnasol neu os oedd yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.
2
At ddibenion is-baragraff (1)(b) mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—
a
os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a
b
os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).
I6I1425Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol
At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—
a
os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;
b
os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.
I7I1526Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol i’w bennu fel a ganlyn—
Cam 1
Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.
Y dyddiad perthnasol—
- a
os oedd y partner yn bartner ar 19 Hydref 2003, yw’r dyddiad hwnnw;
- b
os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.
- a
Cam 2
Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—
- a
sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a
- b
sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (5)).
Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.
- a
Cam 3
Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.
Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.
3
Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
4
Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn 19 Hydref 2003, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
5
Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw’r offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem.
6
Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 27 y buddiant trethadwy perthnasol—
a
yw’r buddiant trethadwy sy’n peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth o ganlyniad i’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, neu
b
os creu buddiant trethadwy yw’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, yw’r buddiant trethadwy y crëir y buddiant hwnnw ohono.
I8I1627Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys ac nad yw’r naill na’r llall o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
3
Yr amodau yw—
a
bod yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;
b
bod unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.
4
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, a bod un o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi ei fodloni, pennir y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner fel a ganlyn—
Cam 1
Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.
Y dyddiad perthnasol—
- a
os oedd y partner yn bartner ar y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, yw’r dyddiad hwnnw;
- b
os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.
- a
Cam 2
Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—
- a
sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a
- b
sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (7)).
Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.
- a
Cam 3
Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.
Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.
5
Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
6
Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
7
Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw—
a
pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny, yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;
b
pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar ôl y dyddiad hwnnw, unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.