Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

RHAN 5LL+CTRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU O BARTNERIAETH

RhagarweiniadLL+C

20Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 20 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinolLL+C

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan drosglwyddir buddiant trethadwy—

(a)o bartneriaeth i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu

(b)o bartneriaeth i berson sy’n gysylltiedig â pherson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid.

(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (yn ddarostyngedig i baragraff 30) yn hafal i—

Formula - MV multiplied by (100 minus SLP)%

Ffigwr 10

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir, ac

  • SCI yn swm y cyfrannau is.

(3)Mae paragraff 22 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.

(4)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae eiddo a oedd yn eiddo’r bartneriaeth cyn i’r bartneriaeth gael ei diddymu neu cyn iddi beidio â bodoli fel arall i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn eiddo’r bartneriaeth hyd nes y caiff ei ddosbarthu.

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 7 para. 21 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: swm y cyfrannau isLL+C

22Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 23).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 24).

    Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

  • Cam 3

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy y mae gan y perchennog hwnnw hawl iddo yn union ar ôl y trafodiad.

    Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

  • Cam 4

    Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—

    (a)

    y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 25);

    (b)

    y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner (gweler paragraffau 26 a 27).

  • Cam 5

    Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.

    Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 7 para. 22 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Perchennog perthnasolLL+C

23(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oes gan y person, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os oedd y person, yn union cyn y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 22 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 7 para. 23 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Partner cyfatebolLL+C

24(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 2) mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union cyn y trafodiad—

(a)oedd y person yn bartner, a

(b)y person oedd y perchennog perthnasol neu os oedd yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(b) mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 7 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 7 para. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebolLL+C

25At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 7 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 7 para. 25 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003LL+C

26(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol i’w bennu fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.

    Y dyddiad perthnasol—

    (a)

    os oedd y partner yn bartner ar 19 Hydref 2003, yw’r dyddiad hwnnw;

    (b)

    os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.

  • Cam 2

    Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—

    (a)

    sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a

    (b)

    sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (5)).

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.

  • Cam 3

    Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

(3)Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(4)Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn 19 Hydref 2003, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(5)Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw’r offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem.

(6)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 27 y buddiant trethadwy perthnasol—

(a)yw’r buddiant trethadwy sy’n peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth o ganlyniad i’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, neu

(b)os creu buddiant trethadwy yw’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, yw’r buddiant trethadwy y crëir y buddiant hwnnw ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 7 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 7 para. 26 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynnyLL+C

27(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys ac nad yw’r naill na’r llall o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;

(b)bod unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.

(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, a bod un o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi ei fodloni, pennir y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner fel a ganlyn⁠—

  • Cam 1

    Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.

    Y dyddiad perthnasol—

    (a)

    os oedd y partner yn bartner ar y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, yw’r dyddiad hwnnw;

    (b)

    os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.

  • Cam 2

    Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—

    (a)

    sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a

    (b)

    sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (7)).

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.

  • Cam 3

    Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

(5)Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(6)Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(7)Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw—

(a)pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny, yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;

(b)pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar ôl y dyddiad hwnnw, unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 7 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 7 para. 27 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3