ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU
I1I21Trosolwg
1
Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas ag ymddiriedolaethau.
2
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol;
b
mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau y mae ymddiriedolaethau noeth yn ymwneud â hwy;
c
mae paragraffau 4 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â setliadau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr setliad;
d
mae paragraff 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodol.