xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 8LL+CYMDDIRIEDOLAETHAU

Buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodolLL+C

11(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan ddelir eiddo mewn ymddiriedolaeth o dan gyfraith yr Alban, neu gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, o dan delerau sy’n golygu, pe bai’r ymddiriedolaeth yn cael effaith o dan gyfraith Cymru a Lloegr, yr ystyrid bod gan fuddiolwr fuddiant ecwitïol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

(2)Mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai ganddo fuddiant ecwitïol yn eiddo’r ymddiriedolaeth er gwaethaf y ffaith na chydnabyddir unrhyw fuddiant o’r fath gan gyfraith yr Alban nac, yn ôl y digwydd, y wlad neu’r diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(3)Mae caffael buddiant buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth i’w drin fel pe bai’n ymwneud â chaffael buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3