ATODLEN 8LL+CYMDDIRIEDOLAETHAU

Termau allweddolLL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “ymddiriedolaeth noeth” yw ymddiriedolaeth y mae person yn dal eiddo fel ymddiriedolwr oddi tani—

(a)ar ran person sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr, neu a fyddai â’r hawl honno oni bai am y ffaith ei fod o dan 18 oed neu heb fod â galluedd (o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)) i weinyddu a rheoli eiddo a materion y person, neu

(b)ar ran dau berson neu ragor sydd neu a fyddai â’r hawl honno ar y cyd,

ac mae’n cynnwys achos pan fo person yn dal eiddo fel enwebai ar ran rhywun arall.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at berson sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr yn gyfeiriad at achos pan fo gan y person yr hawl unigryw, yn ddarostyngedig yn unig i fodloni unrhyw arwystl, hawlrwym neu hawl arall sy’n ddyledus gan yr ymddiriedolwr—

(a)i ddefnyddio’r eiddo i dalu tollau, trethi, costau neu alldaliadau eraill, neu

(b)i gyfarwyddo sut i ymdrin â’r eiddo.

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “setliad” yw ymddiriedolaeth nad yw’n ymddiriedolaeth noeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3