xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 8LL+CYMDDIRIEDOLAETHAU

Ymddiriedolwyr yn caffael setliadLL+C

4Pan fo personau yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwyr setliad, maent i’w trin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r caffaeliad hwnnw, fel prynwyr yr holl fuddiant a gaffaelir (gan gynnwys y buddiant llesiannol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3