ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU
I1I26Ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth rhwng buddiolwyr
Pan fo—
a
ymddiriedolwyr setliad yn ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth fel bod buddiolwr yn caffael buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth penodol ac yn peidio â bod â buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth arall, a
b
y buddiolwr yn cydsynio i beidio â bod â buddiant yn yr eiddo arall hwnnw,
nid yw’r ffaith fod y buddiolwr yn cydsynio yn golygu bod cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad.