ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU

I1I27Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr setliad

1

Pan fo rhwymedigaeth ar ymddiriedolwyr setliad i dalu—

a

treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

b

swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

c

cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

caniateir adennill y taliad, y gosb neu’r llog (ond unwaith yn unig) gan unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr cyfrifol.

2

Ni chaniateir adennill unrhyw swm yn rhinwedd is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn ymddiriedolwr cyfrifol hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

3

Yr ymddiriedolwyr cyfrifol, mewn perthynas â thrafodiad tir, yw’r personau sy’n ymddiriedolwyr ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ac unrhyw berson sy’n dod yn ymddiriedolwr wedi hynny.

4

Yr adeg berthnasol—

a

mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

b

mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu â llog taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

5

Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.