Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Amodau cymhwysoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Yr amodau cymhwyso yw—

(a)yr ymrwymir i’r trafodiad gwerthu yn llwyr neu’n rhannol mewn cydnabyddiaeth yr ymrwymir i’r trafodiad adlesu,

(b)mai’r unig gydnabyddiaeth arall (os o gwbl) ar gyfer y gwerthu yw talu arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall) neu ysgwyddo, fodloni neu ollwng dyled (neu’r ddau),

(c)nad yw’r gwerthu yn drosglwyddiad hawliau o fewn ystyr adran 12 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddo hawliau) nac yn drafodiad cyn-gwblhau o fewn ystyr Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau), a

(d)pan fo A a B ill dau yn gyrff corfforaethol ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn cael effaith, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp (gweler Atodlen 16) ar y dyddiad hwnnw.

(2)Yn is-baragraff (1)(b), ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3