RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU
PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL
Contractau a throsglwyddiadau: darpariaeth gyffredinol
I1I2C1C210Contract a throsglwyddo
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract ar gyfer trafodiad tir a bod y trafodiad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
2
Nid ystyrir bod person yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract (ond gweler is-adran (4)).
3
Os cwblheir y trafodiad heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol—
a
caiff y contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau eu trin fel rhannau o un trafodiad tir, a
b
y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad cwblhau.
4
Ond os yw’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—
a
caiff y contract ei drin fel pe bai’r contract y trafodiad y darperir ar ei gyfer yn y contract, a
b
y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.
5
Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei gwblhau wedi hynny drwy drosglwyddiad—
a
mae’r contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau ill dau yn drafodiadau hysbysadwy at ddibenion y Ddeddf hon, a
C3b
mae treth i’w chodi ar yr ail drafodiad i’r graddau (os o gwbl) y mae’r swm a grybwyllir yn is-adran (6) yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract.
6
Y swm yw’r dreth y byddid wedi ei chodi ar yr ail drafodiad pe bai wedi ei gwblhau heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol.
7
Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau) wedi hynny, neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).
8
Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.
9
Pan fo paragraff 20 o Atodlen 6 yn gymwys (cytundeb ar gyfer les), mae’n gymwys yn lle is-adrannau (4) i (8).
10
Yn yr adran hon—
a
mae cyfeiriadau at gwblhau yn gyfeiriadau at gwblhau’r trafodiad tir y bwriedir ei wneud, rhwng yr un partïon, ac sy’n cydymffurfio’n sylweddol â’r contract;
b
mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.