RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU
PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL
Contractau a throsglwyddiadau: achosion penodol
I1I212Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddiad hawliau
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan ymrwymir i gontract (“y contract gwreiddiol”) y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—
i
i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu
ii
naill ai i berson o’r fath neu i P2, a
b
pan fo aseiniad neu drafodiad arall (sy’n ymwneud â holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono) y daw person (“P4”) i fod â hawl i arfer unrhyw un neu ragor o hawliau P2 o dan y contract gwreiddiol yn lle P2 o ganlyniad iddo.
2
Mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon at drosglwyddiad hawliau yn gyfeiriadau at unrhyw aseiniad neu drafodiad arall o’r fath.
3
Nid ystyrir bod P4 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trosglwyddiad hawliau, ond mae adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) yn cael effaith yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
4
Mae’r adran honno yn gymwys fel pe bai—
a
P4 wedi ymrwymo i gontract (“contract eilaidd”) ar yr un telerau â’r contract gwreiddiol ac eithrio bod P4 yn barti yn lle P2, a
b
y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus gan P4 o dan y contract eilaidd—
i
yn hynny o’r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol ag y bo i’w briodoli i destun y trosglwyddiad hawliau ac sydd i’w roi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan P4 neu gan berson sy’n gysylltiedig â P4, a
ii
yw’r gydnabyddiaeth a roddir am y trosglwyddiad hawliau.
5
Mae cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol i’w ddiystyru os yw’n digwydd—
a
ar yr un pryd â chyflawni’r contract eilaidd yn sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu
b
ar ôl y trosglwyddiad hawliau.
6
Pan drosglwyddir hawliau yn olynol, mae is-adran (4) yn cael effaith mewn perthynas â phob trosglwyddiad.
7
Os caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau cynharach ei gyflawni’n sylweddol, mae hynny i’w ddiystyru os yw’n digwydd—
a
ar yr un pryd ag y caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau dilynol ei gyflawni’n sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu
b
ar ôl y trosglwyddiad dilynol hwnnw.
8
Pan fo trosglwyddiad hawliau yn ymwneud â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, neu â rhai yn unig o’r hawliau o dan y contract hwnnw—
a
mae cyfeiriad yn is-adran (4)(a) neu (5) at y contract gwreiddiol, neu gyfeiriad yn is-adran (7) at y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad cynharach, yn gyfeiriad at y contract hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, a
b
mae’r contract hwnnw, i’r graddau nad yw’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, i’w drin fel contract ar wahân.
9
Os caiff trafodiad tir ei drin fel pe ymrwymwyd iddo yn rhinwedd is-adran (4), nid yw’r dyddiad y mae’n cael effaith yn gynharach na dyddiad y trosglwyddiad hawliau.
10
Mewn perthynas â thrafodiad o’r fath—
a
mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’w darllen fel cyfeiriadau at P1;
b
mae cyfeiriadau eraill at y gwerthwr yn y Ddeddf hon i’w darllen, pan fo’r cyd-destun yn caniatáu hynny, fel cyfeiriadau at naill ai P1 neu P2.
11
Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb.