Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

12Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddiad hawliauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan ymrwymir i gontract (“y contract gwreiddiol”) y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—

(i)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu

(ii)naill ai i berson o’r fath neu i P2, a

(b)pan fo aseiniad neu drafodiad arall (sy’n ymwneud â holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono) y daw person (“P4”) i fod â hawl i arfer unrhyw un neu ragor o hawliau P2 o dan y contract gwreiddiol yn lle P2 o ganlyniad iddo.

(2)Mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon at drosglwyddiad hawliau yn gyfeiriadau at unrhyw aseiniad neu drafodiad arall o’r fath.

(3)Nid ystyrir bod P4 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trosglwyddiad hawliau, ond mae adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) yn cael effaith yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.

(4)Mae’r adran honno yn gymwys fel pe bai—

(a)P4 wedi ymrwymo i gontract (“contract eilaidd”) ar yr un telerau â’r contract gwreiddiol ac eithrio bod P4 yn barti yn lle P2, a

(b)y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus gan P4 o dan y contract eilaidd—

(i)yn hynny o’r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol ag y bo i’w briodoli i destun y trosglwyddiad hawliau ac sydd i’w roi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan P4 neu gan berson sy’n gysylltiedig â P4, a

(ii)yw’r gydnabyddiaeth a roddir am y trosglwyddiad hawliau.

(5)Mae cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol i’w ddiystyru os yw’n digwydd—

(a)ar yr un pryd â chyflawni’r contract eilaidd yn sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu

(b)ar ôl y trosglwyddiad hawliau.

(6)Pan drosglwyddir hawliau yn olynol, mae is-adran (4) yn cael effaith mewn perthynas â phob trosglwyddiad.

(7)Os caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau cynharach ei gyflawni’n sylweddol, mae hynny i’w ddiystyru os yw’n digwydd—

(a)ar yr un pryd ag y caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau dilynol ei gyflawni’n sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu

(b)ar ôl y trosglwyddiad dilynol hwnnw.

(8)Pan fo trosglwyddiad hawliau yn ymwneud â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, neu â rhai yn unig o’r hawliau o dan y contract hwnnw—

(a)mae cyfeiriad yn is-adran (4)(a) neu (5) at y contract gwreiddiol, neu gyfeiriad yn is-adran (7) at y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad cynharach, yn gyfeiriad at y contract hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, a

(b)mae’r contract hwnnw, i’r graddau nad yw’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, i’w drin fel contract ar wahân.

(9)Os caiff trafodiad tir ei drin fel pe ymrwymwyd iddo yn rhinwedd is-adran (4), nid yw’r dyddiad y mae’n cael effaith yn gynharach na dyddiad y trosglwyddiad hawliau.

(10)Mewn perthynas â thrafodiad o’r fath—

(a)mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’w darllen fel cyfeiriadau at P1;

(b)mae cyfeiriadau eraill at y gwerthwr yn y Ddeddf hon i’w darllen, pan fo’r cyd-destun yn caniatáu hynny, fel cyfeiriadau at naill ai P1 neu P2.

(11)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3