(1)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag—
(a)yr hyn sydd i gyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu
(b)pennu swm y gydnabyddiaeth drethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3