RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU
PENNOD 1TRETH TRAFODIADAU TIR
I1I22Treth trafodiadau tir
1
Mae treth (o’r enw “treth trafodiadau tir”) i’w chodi ar drafodiadau tir.
2
Caiff y dreth ei chodi—
a
pa un a oes offeryn yn rhoi effaith i’r trafodiad ai peidio,
b
os oes offeryn o’r fath, ni waeth ym mha le y caiff ei gyflawni, ac
c
ni waeth ym mha le y mae unrhyw barti i’r trafodiad nac ym mha le y mae’n preswylio.
3
Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sydd i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.