RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Cyfrifo treth

I1I227Swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiol

1

Mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â thrafodiad trethadwy nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol (gweler adran 28 ynglŷn â hynny) i’w gyfrifo fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r trafodiad, lluosi hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd o fewn y band â’r gyfradd dreth ganrannol ar gyfer y band hwnnw.

  • Cam 2

    Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 1.

    Y canlyniad yw swm y dreth sydd i’w godi.

2

Ond nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo unrhyw swm o dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad trethadwy neu ran ohoni ar ffurf rhent; gweler yn lle hynny—

a

yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw sy’n gwneud darpariaeth ynglŷn â’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd preswyl;

b

yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 29 o’r Atodlen honno sy’n darparu ar gyfer cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg.