RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Cyfrifo treth

I1I228Swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol

1

Pan fo trafodiad trethadwy yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w bennu fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Cyfrifo’r dreth a fyddai i’w chodi yn unol ag adran 27(1), pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yr holl gydnabyddiaeth.

  • Cam 2

    Rhannu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad â’r holl gydnabyddiaeth.

  • Cam 3

    Lluosi’r swm sy’n deillio o Gam 1 â’r ffracsiwn sy’n deillio o Gam 2.

    Y canlyniad yw’r swm o dreth sydd i’w godi.

2

Yn is-adran (1), yr “holl gydnabyddiaeth” yw cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol (heb gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).

3

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad cysylltiol, neu ran ohoni, ar ffurf rhent nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm unrhyw dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r rhent; gweler yn lle hynny—

a

yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw, a

b

yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 30 o’r Atodlen honno (cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol).