RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU
PENNOD 2TRAFODIADAU TIR
I1I23Trafodiad tir
1
Yn y Ddeddf hon, ystyr “trafodiad tir” yw caffael buddiant trethadwy.
2
Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae’r Ddeddf hon yn gymwys ni waeth ym mha ffordd y rhoddir effaith i’r caffaeliad, boed drwy weithred gan y partïon, drwy orchymyn llys neu awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu yn sgil gweithredu’r gyfraith.
3
Gweler adran 15 ynghylch pa bryd y mae caffael opsiwn neu hawl rhagbrynu yn drafodiad tir.