Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

32LesoeddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “les” yw—

(a)buddiant neu hawl mewn tir neu dros dir am gyfnod o flynyddoedd (boed benodol neu gyfnodol), neu

(b)unrhyw fuddiant neu hawl arall mewn tir neu dros dir y gellir ei derfynu drwy roi cyfnod o rybudd neu hysbysiad ar unrhyw adeg (ac eithrio tenantiaeth wrth ewyllys, sy’n fuddiant esempt yn rhinwedd adran 5(1)(c)).

(2)Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch lesoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 32(1) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

I3A. 32(2) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(f)

I4A. 32(2) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3