RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL

I1I234Cynlluniau ymddiriedolaeth unedau

1

Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (8)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun ymddiriedolaeth unedau fel pe bai—

a

yr ymddiriedolwyr yn gwmni, a

b

hawliau’r deiliaid unedau yn gyfranddaliadau yn y cwmni.

2

Ystyrir pob rhan o gynllun ambarél yn gynllun ymddiriedolaeth unedau ar wahân ac nid yw’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.

3

Yn yr adran hon ac adran 35, ystyr “cynllun ambarél” yw cynllun ymddiriedolaeth unedau—

a

sy’n darparu trefniadau ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y mae taliadau i’w rhoi ar eu cyfer ohonynt, a

b

y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.

4

Ystyr “rhan” o gynllun ambarél yw’r trefniadau hynny sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.

5

Yn y Ddeddf hon, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (6)—

  • mae i “cynllun ymddiriedolaeth unedau” yr un ystyr ag a roddir i “unit trust scheme” yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) (gweler adran 237 o’r Ddeddf honno), ac

  • ystyr “deiliad unedau” (“unit holder”) yw cyfranogwr mewn cynllun ymddiriedolaeth unedau.

6

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun ymddiriedolaeth unedau at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.

7

Mae adran 620 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (trin cronfeydd buddsoddi llys fel ymddiriedolaethau unedau awdurdodedig) yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at “authorised unit trust” yn gyfeiriadau at “unit trust scheme”.

8

Nid yw cynllun ymddiriedolaeth unedau i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).