xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CFFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1LL+CFFURFLENNI TRETH

Trafodiadau hysbysadwyLL+C

45Trafodiadau hysbysadwyLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn hysbysadwy os yw—

(a)yn gaffaeliad prif fuddiant mewn tir (gweler adran 68) nad yw o fewn un o’r eithriadau a restrir yn adran 46,

(b)yn gaffaeliad buddiant trethadwy, ac eithrio prif fuddiant mewn tir—

(i)os nad yw’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, a

(ii)os yw treth i’w chodi ar gyfradd o fwy na 0%, neu y byddai treth i’w chodi felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30, mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad,

(c)yn drafodiad tir y trinnir person fel pe bai’n ymrwymo iddo yn rhinwedd adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti), neu

(d)yn drafodiad tir tybiannol neu’n drafodiad tir tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 2.

(2)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo),

(b)paragraff 18(5) o Atodlen 4 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol),

(c)paragraff 44(1) o Atodlen 7 (trosglwyddo buddiant partneriaeth), a

(d)paragraff 2(6) o Atodlen 10 (cyllid eiddo arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3