RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 1FFURFLENNI TRETH
Datganiadau
I1I253Datganiad
1
Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y Ddeddf hon gynnwys datganiad gan y prynwr fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y prynwr.
2
Ond pan fo—
a
y prynwr yn awdurdodi asiant i gwblhau’r ffurflen dreth,
b
y prynwr yn gwneud datganiad bod yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen dreth, ac eithrio’r dyddiad perthnasol, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, ac
c
y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan yr asiant bod y dyddiad perthnasol a ddarperir ar y ffurflen dreth yn gywir hyd eithaf gwybodaeth yr asiant,
tybir bod y gofyniad yn is-adran (1) wedi ei fodloni.
3
Y dyddiad perthnasol yw—
a
mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 47, dyddiad y digwyddiad y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad iddo,
b
mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 49, dyddiad y digwyddiad datgymhwyso,
c
mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 51, y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith,
d
mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan baragraff 24 o Atodlen 5, y dyddiad y daeth y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) o’r Atodlen honno i ben, ac
e
mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
4
Nid oes dim yn is-adran (2) yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.