RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 3GOHIRIO TRETH

I1I258Ceisiadau gohirio mewn achosion o gydnabyddiaeth ddibynnol neu ansicr

1

Caiff prynwr mewn trafodiad tir pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni yn ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 a 20) roi hysbysiad i ACC (“cais gohirio”) yn gofyn am ohirio talu swm o dreth sy’n daladwy a ddatgenir ar y ffurflen dreth gyntaf sy’n ymwneud â’r trafodiad (“y swm a geisir”).

2

Ond ni chaiff y swm a geisir fod yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio (gweler adran 59).

3

Rhaid i ACC gytuno i gais gohirio—

a

os dychwelir y ffurflen dreth ac os gwneir y cais gohirio ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno neu cyn hynny,

b

os yw’r cais—

i

yn pennu’r swm y ceisir ei ohirio,

ii

yn nodi sut y cyfrifwyd y swm a geisir yn unol ag adran 59 (gan gynnwys swm y gydnabyddiaeth sydd o fewn cam 2 o’r cyfrifiad hwnnw (“y gydnabyddiaeth ohiriedig”)),

iii

yn nodi’r rhesymau pam fod y gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol neu’n ansicr a’r rhesymau pam y mae i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

iv

yn cynnig dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (gweler is-adran (8)), a

v

yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol yn rhinwedd adran 191 o DCRhT (rhoi hysbysiadau i ACC),

c

os yw ACC yn fodlon nad yw’r swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio a gyfrifir yn unol ag adran 59, a

d

os nad yw’r trafodiad tir yn drefniant osgoi trethi nac yn ffurfio rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.

4

Fel arall rhaid i ACC wrthod cais gohirio (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).

5

Ond os yw ACC o’r farn fod y swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio caiff ganiatáu’r cais gohirio er hynny mewn perthynas â hynny o’r swm a geisir nad yw’n fwy na’r swm y gellir ei ohirio.

6

Wrth gytuno i gais gohirio—

a

rhaid i ACC bennu swm y dreth y mae’n cytuno i’w ohirio (y “swm gohiriedig”);

b

rhaid i ACC bennu dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (a gaiff fod yn wahanol i’r dyddiad terfyn disgwyliedig a gynigir gan y prynwr) (gweler is-adran (8));

c

caiff ACC osod unrhyw amodau (gan gynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr dalu rhan o’r swm gohiriedig ar adegau penodedig yn ystod y cyfnod gohirio) ag y bo’n briodol ym marn ACC.

7

Yn yr adran hon, mae i “trefniant osgoi trethi” yr un ystyr ag yn adran 31.

8

Yn y Bennod hon—

a

ystyr “cyfnod gohirio” yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y cyfeirir ati yn is-adran (1) ac sy’n dod i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

i

y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu

ii

y dyddiad y ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig;

b

ystyr “dyddiad terfyn disgwyliedig”yw—

i

y dyddiad y disgwylir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig, neu

ii

os na ellir rhagfynegi’r dyddiad hwnnw, bum mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu, pan newidir y dyddiad terfyn disgwyliedig o dan adran 62, bum mlynedd i’r dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol).

9

Y digwyddiadau yw—

a

pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol, dyddiad y digwyddiad dibynnol neu’r dyddiad y daw’n amlwg na fydd yn digwydd;

b

pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ansicr, y dyddiad y canfyddir y gydnabyddiaeth.