Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

60Ceisiadau gohirio: hysbysiadau o benderfyniadau ACCLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr sy’n pennu—

(a)y swm gohiriedig a’r swm a wrthodir (os o gwbl),

(b)dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio,

(c)unrhyw amod y mae ACC wedi ei osod o dan adran 58(6)(c), a

(d)os yw’r swm gohiriedig yn is na’r swm gohiriedig arfaethedig, y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn pennu’r rhesymau dros wrthod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3