RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 3GOHIRIO TRETH

I1I262Amrywio ceisiadau gohirio

1

Pan fo ACC wedi cytuno i gais gohirio, caiff y prynwr roi hysbysiad i ACC yn gofyn am⁠—

a

newid y dyddiad terfyn disgwyliedig;

b

amrywio neu godi amod a orfodwyd o dan adran 58(6)(c).

2

Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu’r newid mewn amgylchiadau y cred y prynwr ei fod yn cyfiawnhau’r newid, neu’n cyfiawnhau amrywio neu godi’r amod.

3

Os yw ACC o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff—

a

cytuno i’r cais a wneir o dan is-adran (1), neu

b

cytuno i—

i

dyddiad terfyn disgwyliedig gwahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(a);

ii

amrywiad gwahanol i amod i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(b).

4

Pan fo ACC yn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.