xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CFFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 3LL+CGOHIRIO TRETH

62Amrywio ceisiadau gohirioLL+C

(1)Pan fo ACC wedi cytuno i gais gohirio, caiff y prynwr roi hysbysiad i ACC yn gofyn am⁠—

(a)newid y dyddiad terfyn disgwyliedig;

(b)amrywio neu godi amod a orfodwyd o dan adran 58(6)(c).

(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu’r newid mewn amgylchiadau y cred y prynwr ei fod yn cyfiawnhau’r newid, neu’n cyfiawnhau amrywio neu godi’r amod.

(3)Os yw ACC o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff—

(a)cytuno i’r cais a wneir o dan is-adran (1), neu

(b)cytuno i—

(i)dyddiad terfyn disgwyliedig gwahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(a);

(ii)amrywiad gwahanol i amod i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(b).

(4)Pan fo ACC yn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3