RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Dehongli

I1I294Dehongli’r Rhan hon

1

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “aciwbigo” (“acupuncture”) yw gosod nodwyddau ym meinwe unigolyn at ddibenion adfer neu ddibenion therapiwtig, ond ac eithrio gosod nodwyddau mewn meinwe at ddiben chwistrellu unrhyw sylwedd;

  • mae i “amodau cymeradwyo mandadol” (“mandatory approval conditions”) yr ystyr a roddir yn adran 70;

  • mae i “amodau trwyddedu mandadol cymwys” (“applicable mandatory licensing conditions”) yr ystyr a roddir yn adran 63(7);

  • mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

    1. a

      trelar, lled-drelar, neu beth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;

    2. b

      unrhyw beth ar gerbyd;

    3. c

      rhan o gerbyd y gellir ei datgysylltu;

    4. d

      cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei gario gan gerbyd arall neu ar gerbyd arall;

  • mae i “cyfnod y drwydded” (“licence period”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8);

  • mae i “deiliad trwydded” (“licence holder”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8);

  • ystyr “electrolysis” (“electrolysis”) yw gwaredu gwallt corff unigolyn drwy basio cerrynt trydan drwy’r gwreiddyn drwy osod nodwydd neu chwiliedydd;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan neu gyfleuster symudol (ond nid yw’n cynnwys cerbyd);

  • mae i “meini prawf trwyddedu” (“licensing criteria”) yr ystyr a roddir yn adran 62;

  • mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83;

  • ystyr “tatŵio” (“tattooing”) yw mewnosod mewn priciau a wnaed yng nghroen, neu ym mhilen fwcaidd, unigolyn unrhyw ddeunydd sy’n lliwio a ddyluniwyd i adael marc lled-barhaol neu barhaol (gan gynnwys microbigmentiad);

  • mae i “triniaeth arbennig” (“special procedure”) yr ystyr a roddir yn adran 57 ;

  • ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw trosedd a restrir yn adran 66(8);

  • mae i “trwydded dros dro” (“temporary licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59;

  • mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59;

  • ystyr “tyllu’r corff” (“body piercing”) yw gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi—

    1. a

      i emwaith, neu

    2. b

      i wrthrych o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau neu o dan reoliadau,

    gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn;

  • mae i “tystysgrif gwblhau” (“completion certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 80;

  • mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 70.

2

At ddibenion y diffiniad o “tyllu’r corff” yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at wneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn yn cynnwys cyfeiriad at wneud bwlch yng nghyfanrwydd y croen neu’r bilen fwcaidd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) drwy bric neu endoriad.

3

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi gwrthrych neu ddisgrifiad o wrthrych drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill) y rhan o’r corff y mae’r trydylliad yn cael ei roi ynddi.

4

At ddibenion y Rhan hon—

a

mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail safle sefydlog os yw’n cael ei rhoi mewn mangre sydd—

i

naill ai wedi ei meddiannu gan yr unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth (“P”), neu sydd i unrhyw raddau yn cael ei rheoli gan yr unigolyn hwnnw neu sydd i unrhyw raddau o dan reolaeth yr unigolyn hwnnw, neu

ii

pan fo P yn rhoi’r driniaeth o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, â pherson arall (“E”), naill ai wedi ei meddiannu gan E, neu sydd i unrhyw raddau yn cael ei rheoli gan E neu sydd o dan reolaeth E;

b

mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail symudol os yw’n cael ei rhoi mewn cerbyd;

c

mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail beripatetig os yw’n cael ei rhoi mewn mangreoedd gwahanol amrywiol nad ydynt o fewn paragraff (a)(i) neu (ii);

d

mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail dros dro—

i

os yw’n cael ei rhoi yng nghwrs adloniant, arddangosfa neu ddigwyddiad arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, a

ii

os nad yw’r cyfnod pan y’i rhoddir yn yr adloniant hwnnw, yr arddangosfa honno neu’r digwyddiad hwnnw yn hwy na saith niwrnod.

5

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niwed i iechyd dynol yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) cyfeiriadau at—

a

niwed i iechyd corfforol unigolyn sy’n deillio o (ymhlith pethau eraill)—

i

anaf corfforol,

ii

dod i gysylltiad ag unrhyw ffurf ar haint neu halogiad, neu

iii

gwneud unigolyn yn agored, neu’n fwy agored, i unrhyw ffurf ar haint neu halogiad;

b

niwed i iechyd meddwl unigolyn.