Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

RHAN 2LL+CY DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 1LL+CTRETH GWAREDIADAU TIRLENWI

2Y drethLL+C

(1)Mae treth, o’r enw treth gwarediadau tirlenwi, i’w chodi ar warediadau trethadwy yn unol â’r Ddeddf hon.

(2)Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at dreth (neu at y dreth) yn gyfeiriadau at dreth gwarediadau tirlenwi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

PENNOD 2LL+CGWAREDIADAU TRETHADWY

3Gwarediadau trethadwyLL+C

(1)Gwneir gwarediad trethadwy pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi (gweler adran 4).

(3)Amod 2 yw naill ai—

(a)bod y tir lle y gwneir y gwarediad yn safle tirlenwi awdurdodedig, neu’n rhan o safle o’r fath (gweler adran 5(1)), neu

(b)bod trwydded amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y gwarediad (gweler adran 5(2)) ond nad yw’r tir lle y’i gwneir yn safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.

(4)Amod 3 yw bod y gwarediad yn warediad o’r deunydd fel gwastraff (gweler adrannau 6 a 7).

(5)Amod 4 yw bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru.

(6)Gweler hefyd adran 8 ar gyfer mathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig sydd i’w trin fel gwarediadau trethadwy (pa un a fodlonir yr amodau uchod ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

4Gwaredu deunydd drwy dirlenwiLL+C

(1)Gwaredir deunydd drwy dirlenwi os caiff deunydd—

(a)ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu

(b)ei ddodi o dan wyneb y tir (er enghraifft, mewn ceudod megis ogof neu gloddfa).

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys pa un a osodir y deunydd mewn cynhwysydd cyn ei ddodi ai peidio.

(3)Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd drwy dirlenwi (gan gynnwys drwy ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6A. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

5Safleoedd tirlenwi awdurdodedig a thrwyddedau amgylcheddolLL+C

(1)Mae tir yn safle tirlenwi awdurdodedig os yw trwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi mewn grym mewn perthynas â’r tir.

(2)Trwydded a roddir o dan reoliadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24) yw trwydded amgylcheddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8A. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

6Gwaredu deunydd fel gwastraffLL+C

(1)Gwaredir deunydd fel gwastraff os yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu.

(2)Gellir dod i’r casgliad bod bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu, ac yn benodol ar sail y ffaith (os digwydd hynny) bod y deunydd wedi ei ddodi mewn man gwarediadau tirlenwi.

(3)Nid yw’r canlynol i’w trin fel pe baent yn anghyson â bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu⁠—

(a)gwneud defnydd dros dro o’r deunydd, neu ddefnydd ohono sy’n atodol i’w waredu drwy dirlenwi;

(b)cael budd o’r deunydd neu o unrhyw beth a allyrrir ganddo (er enghraifft, defnyddio nwy a gynhyrchir wrth i’r deunydd bydru i gynhyrchu trydan).

(4)Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff (gan gynnwys drwy ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I10A. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

7Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn nodi pwy yw’r person sy’n gyfrifol am warediad at ddibenion adran 6.

(2)Yn achos gwarediad a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad.

(3)Ond os gwneir y gwarediad heb ganiatâd y gweithredwr, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

(4)Gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yw deiliad y drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi ar y safle.

(5)Yn achos gwarediad a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I12A. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

8Gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwyLL+C

(1)Mae cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig yng Nghymru i’w drin fel gwarediad trethadwy o’r deunydd y cyflawnir y gweithgarwch mewn perthynas ag ef (pa un a fodlonir yr amodau yn adran 3 ai peidio).

(2)Mae’r gwarediad trethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei wneud pan gyflawnir y gweithgarwch safle tirlenwi penodedig am y tro cyntaf mewn perthynas â’r deunydd.

(3)Mae’r canlynol yn fathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig pan gânt eu cyflawni ar safle tirlenwi awdurdodedig—

(a)defnyddio deunydd i greu ffordd dros dro sy’n rhoi mynediad i fan gwarediadau tirlenwi neu i gynnal a chadw ffordd o’r fath;

(b)defnyddio deunydd i greu arwyneb solet dros dro neu i gynnal a chadw arwyneb o’r fath;

(c)defnyddio deunydd i greu bwnd cell neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;

(d)defnyddio deunydd (heblaw deunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnir o’r safle) i greu bwnd sgrinio dros dro neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;

(e)defnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn peidio dros dro;

(f)gosod deunydd mewn man gwarediadau tirlenwi i ddarparu sylfaen ar gyfer unrhyw beth a ddefnyddir i leinio, i gapio neu i ddraenio’r man hwnnw, neu er mwyn atal difrod i unrhyw beth o’r fath;

(g)cadw deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man o dan adran 55, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan adran 56(4)(a);

(h)storio lludw (er enghraifft, lludw sy’n codi a lludw gwaelod);

(i)defnyddio deunydd mewn gwaith adfer.

(4)Yn is-adran (3)—

  • ystyr “arwyneb solet” (“hard standing”) yw sylfaen y cyflawnir gweithgarwch safle tirlenwi arni;

  • ystyr “bwnd cell” (“cell bund”) yw strwythur mewn man gwarediadau tirlenwi sy’n gwahanu symiau o ddeunydd a ddodir yn y man hwnnw;

  • ystyr “bwnd sgrinio” (“screening bund”) yw strwythur, pa un ai uwchben y ddaear neu dan ddaear, ar gyfer diogelu neu guddio gweithgarwch safle tirlenwi neu leihau sŵn;

  • ystyr “gwaith adfer” (“restoration work”) yw gwaith a wneir i adfer safle tirlenwi awdurdodedig (neu unrhyw ran o’r safle) at ddefnydd ac eithrio gwneud gwarediadau tirlenwi; ond [F1pan fo man gwarediadau tirlenwi yn cael ei gapio, nid yw gwaith a wneir i adfer y man hwnnw] yn waith adfer oni chaiff ei wneud ar ôl i’r man gael ei gapio.

(5)Caiff rheoliadau—

(a)darparu bod gweithgarwch safle tirlenwi i fod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig,

(b)addasu’r disgrifiad o weithgarwch safle tirlenwi penodedig, neu

(c)darparu bod gweithgarwch i beidio â bod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig.

(6)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I14A. 8(1)-(3), (5)(6) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I15A. 8(4) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(a)

PENNOD 3LL+CGWAREDIADAU ESEMPT

9Esemptiadau: cyffredinolLL+C

(1)Mae’r Bennod hon yn darparu esemptiad rhag treth ar gyfer gwarediadau deunydd penodol a fyddai fel arall i’w trin fel gwarediadau trethadwy.

(2)Nid yw gwarediad deunydd sy’n esempt rhag treth yn warediad trethadwy.

(3)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I17A. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

10Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safleLL+C

Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—

(a)y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—

(i)a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a

(ii)yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a

(b)y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I19A. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

11Mynwentydd anifeiliaid anwesLL+C

(1)Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth—

(a)os yw’n warediad deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall, a

(b)os y’i gwneir ar safle tirlenwi awdurdodedig sy’n bodloni’r amod yn is-adran (2).

(2)Yr amod yw na wnaed unrhyw warediadau tirlenwi ar y safle yn ystod y cyfnod perthnasol, heblaw am warediadau deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall.

(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym, neu â’r diwrnod y daw’r safle yn safle tirlenwi awdurdodedig, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y gwarediad a grybwyllir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I21A. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

12Pŵer i addasu esemptiadauLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)creu esemptiad ychwanegol rhag treth,

(b)addasu esemptiad presennol, neu

(c)dileu esemptiad.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i esemptiad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu cyn y gwneir gwarediad).

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I23A. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3