Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

PENNOD 1LL+CPERSONAU Y MAE’R DRETH I’W CHODI ARNYNT

13Personau y mae’r dreth i’w chodi arnyntLL+C

Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi ar y person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad (pa un a yw’r gweithredwr yn gwneud y gwarediad neu’n caniatáu ei wneud ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3