Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiauLL+C

15Deunydd cymwysLL+C

(1)Deunydd cymwys yw deunydd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

  • Gofyniad 1

    Mae’r deunydd wedi ei bennu yn y Tabl yn Atodlen 1.

  • Gofyniad 2

    Mae pob amod yn y Tabl yn Atodlen 1 sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunydd (os oes rhai) wedi ei fodloni.

  • Gofyniad 3

    Ceir—

    (a)

    os yw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), ddisgrifiad ysgrifenedig o’r math sy’n ofynnol, neu

    (b)

    os nad yw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd yn ofynnol yn rhinwedd yr adran honno, dystiolaeth arall,

    y gellir penderfynu ar ei sail bod gofyniad 1 a 2 wedi eu bodloni.

(2)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

16Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiauLL+C

(1)Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yw cymysgedd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

  • Gofyniad 1

    Mae’r cymysgedd ar ffurf—

    (a)

    un deunydd cymwys neu ragor, a

    (b)

    swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys.

  • Gofyniad 2

    Ceir—

    (a)

    os yw disgrifiad ysgrifenedig o’r cymysgedd yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), ddisgrifiad ysgrifenedig o’r math sy’n ofynnol, neu

    (b)

    os nad yw disgrifiad ysgrifenedig o’r cymysgedd yn ofynnol yn rhinwedd yr adran honno, dystiolaeth arall,

    y gellir penderfynu ar ei sail bod gofyniad 1 wedi ei fodloni.

  • Gofyniad 3

    Nid yw’r deunyddiau anghymwys wedi eu cymysgu’n fwriadol â’r deunyddiau cymwys at ddibenion—

    (a)

    gwaredu, neu

    (b)

    materion sy’n ymwneud â pharatoi i waredu.

  • Gofyniad 4

    Nid yw’r deunyddiau anghymwys yn cynnwys unrhyw ddeunydd a ragnodir fel deunydd na chaniateir ei gynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

  • Gofyniad 5

    Nid yw’r cymysgedd yn wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 19 Tachwedd 2008.

  • Gofyniad 6

    Ni wnaed unrhyw drefniadau mewn cysylltiad â’r cymysgedd y mae osgoi atebolrwydd i’r dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion.

  • Gofyniad 7

    Os yw’r cymysgedd yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, mae unrhyw ofyniad a ragnodir o dan adran 17(1) (naill ai mewn perthynas â chymysgeddau yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymysgeddau o’r disgrifiad penodol hwnnw) wedi ei fodloni mewn cysylltiad â’r cymysgedd.

(2)At ddibenion gofyniad 1—

(a)rhaid ystyried pwysau a chyfaint y deunyddiau anghymwys wrth benderfynu a yw swm y deunyddiau hynny i’w drin fel swm bychan ai peidio;

(b)rhaid ystyried potensial y deunyddiau anghymwys i beri niwed wrth benderfynu a yw’r deunyddiau hynny i’w trin fel pe baent yn atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu nad yw swm o ddeunyddiau anghymwys i’w drin fel swm bychan at ddibenion gofyniad 1 os yw’n fwy na chanran ragnodedig o’r cymysgedd o ddeunyddiau (yn ôl pwysau neu gyfaint neu’r ddau).

(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—

(a)ychwanegu gofyniad pellach at is-adran (1),

(b)addasu gofyniad presennol,

(c)dileu gofyniad, neu

(d)gwneud darpariaeth bellach ynghylch materion y mae’n rhaid eu hystyried neu y caniateir eu hystyried at ddibenion penderfynu a yw gofyniad wedi ei fodloni, neu addasu neu ddileu darpariaeth bresennol ynghylch y materion hynny.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;

  • mae i “gronynnau mân” (“fines”) yr ystyr a roddir yn adran 17(6);

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau;

  • mae i “trefniant” (“arrangement”) yr ystyr a roddir yn adran 81B(3) o DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

17Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mânLL+C

(1)Caiff rheoliadau ragnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni (yn ychwanegol at ofynion 1 i 6 yn adran 16) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu (ymysg pethau eraill) bod—

(a)rhaid i’r cymysgedd fod wedi tarddu mewn modd rhagnodedig (er enghraifft, drwy broses trin gwastraff ragnodedig);

(b)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â natur y gronynnau mân yn y cymysgedd;

(c)rhaid i gamau rhagnodedig fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r cymysgedd (naill ai gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig neu gan unrhyw berson arall);

(d)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â chymryd y camau hynny;

(e)rhaid i’r cymysgedd roi canlyniad rhagnodedig os cynhelir prawf rhagnodedig arno.

(3)Pan wneir rheoliadau o dan is-adran (2)(e), caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal y prawf rhagnodedig (“y prawf”) ar gymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân;

(b)sy’n pennu pryd y mae’n rhaid i’r gweithredwr wneud hynny;

(c)sy’n galluogi ACC

(i)i gyfarwyddo’r gweithredwr i gynnal y prawf ar bob cymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle, neu ar ddisgrifiadau penodol o’r cymysgeddau hynny o ronynnau mân;

(ii)i gynnal y prawf ei hun ar unrhyw gymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle;

(d)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC a’r gweithredwr—

(i)cadw tystiolaeth ragnodedig mewn cysylltiad â’r prawf, a

(ii)ei storio’n ddiogel am gyfnod rhagnodedig;

(e)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ragnodedig i ACC mewn cysylltiad â’r prawf—

(i)ar gyfnodau rhagnodedig, a

(ii)yn y ffurf a’r modd rhagnodedig;

(f)sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r gweithredwr gymryd camau rhagnodedig os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf;

(g)sy’n gwahardd cymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau mewn amgylchiadau rhagnodedig.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cosbau, neu

(b)adolygiadau ac apelau,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr is-adran honno; a phan fyddant yn gwneud hynny, cânt ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

(5)Caiff unrhyw reoliadau o dan yr adran hon, ac eithrio rheoliadau sy’n rhoi pwerau i ACC neu’n gosod dyletswyddau arno, wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a gyhoeddwyd wedi hynny).

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “gronynnau mân” (“fines”) yw gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy’n cynnwys elfen fecanyddol;

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6A. 17 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/955, ergl. 2(b)