xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CGWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 4LL+CCASGLU A RHEOLI’R DRETH

Talu, adennill ac ad-dalu trethLL+C

42Talu trethLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

[F1(1A)Ond os yw swm o gredyd treth wedi ei osod yn erbyn y swm hwnnw o dreth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 54, y swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu erbyn y dyddiad hwnnw yw’r swm sy’n parhau i fod yn weddill ar ôl y gosod yn erbyn (os oes unrhyw swm o’r fath).]

(2)Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—

(a)os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.

(3)Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 42 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

43Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—

(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y person, F2...

[F3(aa)swm y credyd treth a hawliwyd gan y person, a]

(b)y dreth a dalwyd gan y person,

mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(3)Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 43(1)(3) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I5A. 43(2) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(o)

44Gohirio adennillLL+C

(1)Mae adran 181B o DCRhT (ceisiadau i ohirio) (a fewnosodir gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3)—

(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a), a

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.

(3)Yn is-adran (4)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder a

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,.

(4)Yn is-adran (5)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)yn lle’r geiriau o “caiff ganiatáu” i’r diwedd rhodder neu

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I7A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

45Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl drethLL+C

Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I9A. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3