RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4LL+CCOSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunyddLL+C

61Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodolLL+C

Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n methu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

62Cosb am gymhwyso’r disgownt dŵr yn anghywirLL+C

Pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig, wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy—

(a)yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny, neu

(b)yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21,

mae’r gweithredwr yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

63Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62LL+C

(1)Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.