xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Ar ôl adran 118 o DCRhT (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) mewnosoder—
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—
(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a
(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—
(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.
(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—
(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond
(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.
(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 74 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
Yn adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)Y gosb—
(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;
(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I4A. 75 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
Ar ôl adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—
(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a
(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—
(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.
(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—
(a)swm B, a
(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.
(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).”
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I6A. 76 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3