RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 7AMRYWIOL
Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth
I1I1088Addasu contractau
1
Pan fo—
a
gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,
b
contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac
c
ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,
mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.
2
At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.
3
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—
a
newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,
b
newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu
c
newid yn swm y dreth sydd i’w godi.
I5I889Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.
2
Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—
a
mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond
b
nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.
3
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
a
sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;
b
ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;
c
ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;
d
ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;
e
ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;
f
ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;
g
ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;
h
ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;
i
ar gyfer adolygiadau ac apelau.
4
Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
I4I9I290Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT.
I11I391Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon
1
Wrth arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon—
a
rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru;
b
caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.
2
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i arfer pwerau a dyletswyddau o dan adran 92.
Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
I6I792Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
1
Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.
2
Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—
a
gwneud gwarediadau tirlenwi, neu
b
gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.
3
Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—
a
cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;
b
bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
adolygu’r Cynllun—
i
o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a
ii
yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a
b
ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.
5
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.
6
Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.