1Mae’r Tabl yn nodi—
(a)yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;
(b)yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.
Grŵp | Deunyddiau | Amodau |
---|---|---|
1 | Creigiau a phridd | Eu bod yn digwydd yn naturiol |
2 | Deunydd cerameg neu goncrit | |
3 | Mwynau | Eu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi |
4 | Slag ffwrnais | |
5 | Lludw | |
6 | Cyfansoddion anorganig actifedd isel | |
7 | Calsiwm sylffad | 1. Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig. 2. Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy. |
8 | Calsiwm hydrocsid a heli | Ei fod wedi ei waredu mewn ceudod heli |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3