(a gyflwynir gan adran 15)

ATODLEN 1LL+CDEUNYDD CYMWYS: DEUNYDDIAU PENODEDIG AC AMODAU

CyffredinolLL+C

1Mae’r Tabl yn nodi—

(a)yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;

(b)yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.

TABL

GrŵpDeunyddiauAmodau
1Creigiau a phriddEu bod yn digwydd yn naturiol
2Deunydd cerameg neu goncrit
3MwynauEu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi
4Slag ffwrnais
5Lludw
6Cyfansoddion anorganig actifedd isel
7Calsiwm sylffad
1.

Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig.

2.

Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy.

8Calsiwm hydrocsid a heliEi fod wedi ei waredu mewn ceudod heli

DehongliLL+C

2Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

3Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—

(a)creigiau;

(b)clai;

(c)tywod;

(d)grafel;

(e)tywodfaen;

(f)calchfaen;

(g)malurion cerrig;

(h)caolin;

(i)cerrig adeiladu;

(j)cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;

(k)llechi;

(l)isbridd;

(m)silt;

(n)sorod.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

4Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—

(a)gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;

(b)cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;

(c)concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

5Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—

(a)ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;

(b)golchion gweithfeydd concrit.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

6Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—

(a)tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;

(b)clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);

(c)amsugnyddion mwynol;

(d)ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;

(e)silica;

(f)mica;

(g)treulyddion mwynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

7Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—

(a)tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;

(b)ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—

(i)plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu

(ii)asbestos.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

8Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—

(a)gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;

(b)slag o losgi gwastraff.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

9Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—

(a)o hylosgi pren neu wastraff, neu

(b)o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

10Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—

(a)o slwtsh carthion, neu

(b)o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

11Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—

(a)gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;

(b)calsiwm carbonad;

(c)magnesiwm carbonad;

(d)magnesiwm ocsid;

(e)magnesiwm hydrocsid;

(f)haearn ocsid;

(g)fferrig hydrocsid;

(h)alwminiwm ocsid;

(i)alwminiwm hydrocsid;

(j)sirconiwm deuocsid.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

12Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

13Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3