ATODLEN 2YR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR

(a gyflwynir gan adran 34(3))

I5I71Gwybodaeth gyffredinol

Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

enw’r person;

b

unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;

c

datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;

d

cyfeiriad busnes y person;

e

cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;

f

y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.

I2I42Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵp

Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—

a

datganiad o’r ffaith honno;

b

enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;

c

cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;

d

enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).

I1I83Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodau

Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.

I6I34Dehongli

At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.