Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 34(3))

ATODLEN 2LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR

This schedule has no associated Explanatory Notes

Gwybodaeth gyffredinolLL+C

1Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw’r person;

(b)unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;

(c)datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;

(d)cyfeiriad busnes y person;

(e)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;

(f)y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵpLL+C

2Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—

(a)datganiad o’r ffaith honno;

(b)enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;

(c)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;

(d)enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodauLL+C

3Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)

DehongliLL+C

4At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)