xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS AR ANFONEB DIRLENWI

1LL+CRhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)rhif adnabod;

(b)dyddiad dyroddi’r anfoneb;

(c)enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;

(d)y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;

(e)enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;

(f)dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;

(g)disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(h)cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(i)pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(j)unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;

(k)unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;

(l)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;

(m)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3