Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

This section has no associated Explanatory Notes

7LL+CYn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;

(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder 103, 103A neu 103B—

(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,;

(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)