Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 90)

ATODLEN 4LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

This schedule has no associated Explanatory Notes

1LL+CMae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

2LL+CYn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

3LL+CYn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder

(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;

(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

4LL+CYn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;

(c)yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

5LL+CYn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(b)yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I10Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

6LL+CYn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I12Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

7LL+CYn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;

(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder 103, 103A neu 103B—

(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,;

(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I14Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

8LL+CYn adran 111 (dehongli Pennod 4)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I16Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)

9LL+CYn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I18Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

10LL+CYn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I20Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

11LL+CYn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).;

(b)yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I22Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

12LL+CYn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I24Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

13LL+CYn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I26Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

14LL+CYn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;

(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I28Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

15LL+CYn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I30Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

16LL+CYn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I32Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(ii)

17LL+CYn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

(a)adran 154, neu

(b)adran 70 o DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I34Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

18LL+CYn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I36Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)

19LL+CYn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—

  • “mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;;

(b)yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—

(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)DTGT.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I38Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)

20LL+CYn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—

DTGT (“LDTA”)adran 192(2)
Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”)adran 192(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I40Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)