ATODLEN 1DEUNYDD CYMWYS: DEUNYDDIAU PENODEDIG AC AMODAU

(a gyflwynir gan adran 15)

I69I321Cyffredinol

Mae’r Tabl yn nodi—

a

yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;

b

yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.

TABL

Grŵp

Deunyddiau

Amodau

1

Creigiau a phridd

Eu bod yn digwydd yn naturiol

2

Deunydd cerameg neu goncrit

3

Mwynau

Eu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi

4

Slag ffwrnais

5

Lludw

6

Cyfansoddion anorganig actifedd isel

7

Calsiwm sylffad

  1. 1

    Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig.

  2. 2

    Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy.

8

Calsiwm hydrocsid a heli

Ei fod wedi ei waredu mewn ceudod heli

Dehongli

I74I182

Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.

I19I23

Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—

a

creigiau;

b

clai;

c

tywod;

d

grafel;

e

tywodfaen;

f

calchfaen;

g

malurion cerrig;

h

caolin;

i

cerrig adeiladu;

j

cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;

k

llechi;

l

isbridd;

m

silt;

n

sorod.

I78I454

Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—

a

gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;

b

cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;

c

concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.

I6I425

Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—

a

ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;

b

golchion gweithfeydd concrit.

I52I356

Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—

a

tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;

b

clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);

c

amsugnyddion mwynol;

d

ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;

e

silica;

f

mica;

g

treulyddion mwynol.

I48I77

Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—

a

tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;

b

ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—

i

plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu

ii

asbestos.

I44I148

Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—

a

gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;

b

slag o losgi gwastraff.

I54I289

Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—

a

o hylosgi pren neu wastraff, neu

b

o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).

I9I3810

Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—

a

o slwtsh carthion, neu

b

o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.

I50I3611

Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—

a

gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;

b

calsiwm carbonad;

c

magnesiwm carbonad;

d

magnesiwm ocsid;

e

magnesiwm hydrocsid;

f

haearn ocsid;

g

fferrig hydrocsid;

h

alwminiwm ocsid;

i

alwminiwm hydrocsid;

j

sirconiwm deuocsid.

I71I2912

Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.

I12I6413

Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.

ATODLEN 2YR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR

(a gyflwynir gan adran 34(3))

I24I581Gwybodaeth gyffredinol

Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

enw’r person;

b

unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;

c

datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;

d

cyfeiriad busnes y person;

e

cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;

f

y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.

I15I202Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵp

Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—

a

datganiad o’r ffaith honno;

b

enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;

c

cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;

d

enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).

I11I763Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodau

Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.

I34I164Dehongli

At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.

ATODLEN 3YR HYN SYDD I’W GYNNWYS AR ANFONEB DIRLENWI

(a gyflwynir gan adran 41(8))

I49I611

Rhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

rhif adnabod;

b

dyddiad dyroddi’r anfoneb;

c

enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;

d

y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;

e

enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;

f

dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;

g

disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

h

cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;

i

pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

j

unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;

k

unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;

l

swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;

m

cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.

I21I392

Pan ddyroddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1(f) i (l).

ATODLEN 4MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

(a gyflwynir gan adran 90)

I22I571

Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I59I732

Yn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—

a

daw’r testun presennol yn is-adran (1);

b

ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

2

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.

I40I773

Yn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder

a

ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;

b

mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.

I41I674

Yn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—

a

yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

b

yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;

c

yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.

I72I135

Yn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—

a

yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

b

yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;

c

ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

7

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).

I23I686

Yn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.

I26I627

Yn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—

a

yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;

b

yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

c

yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

d

yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder

103, 103A neu 103B—

a

onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,

e

ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

4A

Y gofyniad cymwys yw—

a

yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

b

yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

c

yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.

I60I468

Yn adran 111 (dehongli Pennod 4)—

a

daw’r testun presennol yn is-adran (1);

b

ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

2

At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.

I65I59

Yn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—

a

daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

b

ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

2

Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.

I55I6610

Yn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.

I51I3111

Yn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—

a

ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).

b

yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.

I63I7012

Yn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.

I43I1013

Yn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.

I47I2514

Yn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—

a

yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;

b

yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.

I27I3015

Yn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.

I1I5316

Yn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

I3I5617

Yn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—

a

yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

b

yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

c

ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

7

Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

a

adran 154, neu

b

adran 70 o DTGT.

I17I818

Yn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.

I33I7519

Yn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—

a

yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—

  • “mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;

b

yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—

i

hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

ii

ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder

, ac

c

DTGT.

I37I420

Yn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—

DTGT (“LDTA”)

adran 192(2)

Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”)

adran 192(2)